Amdanom Ni

Ein gweledigaeth

Hyrwyddo rhagoriaeth mewn gwasanaethau prawf a throseddu ieuenctid.

Ein cenhadaeth

Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi yw’r arolygydd annibynnol o wasanaethau prawf a throseddu ieuenctid yng Nghymru a Lloegr. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo newidiadau cadarnhaol yn y gwasanaethau hyn. Mae ein hargymhellion, ein hymchwil a’n canllawiau ymarfer effeithiol yn cymell gwelliannau ar lefelau unigol, lleol a chenedlaethol.  Mae hyn yn arwain at well canlyniadau i oedolion ar brawf a phlant sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau troseddu ieuenctid, gwell gwybodaeth a chefnogaeth i ddioddefwyr; ac yn  amddiffyn y cyhoedd yn well.

Ein gwerthoedd

Dylanwadol

Rydyn ni’n frwd dros gael effaith gadarnhaol ar y sefydliadau rydyn ni’n eu harolygu a’r unigolion maen nhw’n gweithio â nhw.

Annibynnol

Rydyn ni’n gwneud yn siŵr fod tystiolaeth i gefnogi’r dyfarniadau rydyn ni’n eu gwneud, a’u bod yn deg ac yn ddiduedd.

Proffesiynnol

Rydyn ni’n gweithio mewn ffordd barchus, tryloyw, broffesiynnol, gan wrando ar yr hyn a ddysgir, a rhannu hynny’n fewnol ac yn allanol.

Cynhwysol

Byddwn ni’n gweithio fel ‘Un Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi’, gan werthfawrogi a pharchu barn a sgiliau ein gilydd, fel bod pawb yn teimlo eu bod yn rhan o’r hyn rydyn ni’n ei wneud.

Amrywiol

Rydyn ni’n angerddol ynghylch amrywaieth a’r gwerth a ddaw yn sgil rhoi llais i bawb yn ein harolygiadau, a’r cyfle i lwyddo yn ein sefydliad.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Nid yw Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi yn ymdrechu i sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant dim ond am fod rheidrwydd arnynt i wneud hynny dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, ond am mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Rydyn ni am gael amgylchedd lle mae croeso i’r holl staff, a lle maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial, a lle mae staff yn teimlo’n ddiogel ac yn hyderus i herio a chyfrannu tuag at y gwaith rydyn ni’n ei wneud ar amrywiaeth a chynhwysiant. Rydyn ni eisiau grŵp o staff sy’n gallu cynrhychioli eraill drwy eu profiadau personol ac sy’n deall byd y gwasanaeth prawf ac/ neu gyfiawnder ieuenctid o safbwynt staff, a hefyd o safbwynt defnyddwyr. Rydyn ni’n sefydliad cryfach pan ein bod yn cyflawni’r pethau hyn.

Cynllun Iaith Gymraeg

Yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd, wrth gyflawni ei arolygiadau yng Nghymru, yn trin y Gymraega’r Saesneg ar sail cydraddoldeb. Mae gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi Gynllun Iaith Gymraeg sy’n amlinellu’r modd rydyn ni’n darparu gwasanaethau yn y Gymraeg. Cymeradwywyd hyn gan Fwrdd Cymraeg ar 04 Mai 2011.

Memoranda Dealltwriaeth

  • Memorandwm cyd-ddealltwriaeth (MoU) ar gyfer goruchwylio gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid ledled Cymru a Lloegr
  • Memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar gyfer y Trefniadau ar gyfer goruchwylio gwasanaethau prawf yng Nghymru a Lloegr

  • Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi – Hydref 2020