Arolygiad Rheoli Troseddwyr yng Nghymru

Cafodd adroddiad ar yr arolygiad diweddaraf o waith troseddu oedolion yng Nghymru a Lloegr ei gyhoeddi heddiw.

Meddai Sally Lester, Prif Arolygydd Cynorthwyol:

‘Roedd yr arolwg hwn, yng Nghymru, yn ffurfio rhan o ail raglen ein Harolygiadau Rheoli Troseddwyr. Yn ystod yr arolygiadau hyn, rydym yn archwilio sampl cynrychioliadol o achosion a gynhaliwyd gan yr ymddiriedolaeth brawf leol, ac yn asesu pa mor aml y cafodd y gwaith gyda pob achos ei gyflawni i safon ddigon uchel.

‘O edrych ar yr Ymddiriedolaeth yn ei chyfanrwydd, daethom i’r farn fod y gwaith o gadw Risg o Niwed i eraill pob unigolyn – sef y diben ‘Rheoli’ – wedi ei wneud yn ddigon da 75% o’r amser. Cafodd y gwaith o wneud pob unigolyn yn llai tebygol o aildroseddu – y dibenion ‘Helpu’ a ‘Newid’ – ei wneud yn ddigon da 75% o’r amser. Roedd y gwaith o sicrhau hynny ag oedd yn bosibl o gydymffurfio a gorfodi wedi ei wneud yn ddigon da 81% o’r amser. Rhoddir dadansoddiad mwy manwl o’n darganfyddiadau yng nghorff yr adroddiad hwn, a chrynodeb ar ffurf tabl yn Atodiad 1. Gellir darllen y ffigurau hyn yng nghyd-destun ein darganfyddiadau o’r ardaloedd ac Ymddiriedolaethau a arolygwyd hyd yma – gweler isod.

‘Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Prawf Cymru ym mis Ebrill 2010 wrth uno pedair ardal y Gwasanaeth Prawf. Canfuom fod llawer wedi’i gyflawni ers hynny, gydag adnoddau’n cael eu defnyddio’n dda gan grŵp o staff sy’n ymroddedig i gyflwyno gwasanaethau i droseddwyr a’r gymuned ehangach. Roedd rhywfaint o waith wedi’i wneud i wella ansawdd arferion, ond roedd angen rhoi mwy o sylw i fynd i’r afael â meysydd allweddol mewn asesu a chynllunio.

‘Mae Ymddiriedolaeth Prawf Cymru mewn sefyllfa gref i roi sylw i’r meysydd lle mae lle i wella ac adeiladu ar y cryfderau a ganfuwyd gan yr arolygiad hwn.

‘Yn gyffredinol, ystyriwn fod y canfyddiadau’n galonogol iawn.’

O ganlyniad i rai newidiadau i’r cwestiynau yn Adran 3, nid yw canlyniadau arolygiadau ers Ebrill 2011 yn cymharu’n gwbl fanwl â sgoriau blaenorol Sgoriau o’r rhanbarthau o Loegr sydd wedi cael eu harolygu hyd yma Sgoriau
Cymru
Isaf Uchaf Cyfartaledd
‘Rheoli’ – Gwaith ‘Risg o Niwed i eraill’
(camau i ddiogelu’r cyhoedd)
64% 84% 75% 75%
‘Help’ a ‘Newid’ – Gwaith Tebygolrwydd o Aildroseddu
(unigolyn yn llai tebygol o aildroseddu)
62% 82% 74% 75%
‘Cosbi’ – Gwaith Cydymffurfio a Gorfodi
(unigolyn yn cyflawni ei ddedfryd ef/hi)
69% 86% 79% 81%

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae’r adroddiad ar gael yn www.justice.gov.uk/about/hmi-probation/.
  2. Dechreuodd y rhaglen Arolygiad Rheoli Troseddwyr 2 ym mis Medi 2009. Bydd gwaith troseddu oedolion yn cael ei arolygu drwy ymweliad a phob ardal NOMS (Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr) ac ymddiriedolaeth dros gyfnod tair mlynedd ers mis Medi 2009.
  3. Er y gall canlyniadau manwl ein harolygiadau ymddangos braidd yn dechnegol i’r darllenydd cyffredinol, mae penawdau’n canfyddiadau’n ymwneud â diben craidd rheoli troseddwyr: ‘Cosbi, Helpu, Newid a Rheoli’ y troseddwr unigol yn unol â’u hanghenion. Rhown sylw penodol i’r diben ‘Rheoli’ – yr agwedd o’n gwaith sy’n ymwneud â Diogelu’r Cyhoedd – gan mai dyna le gallwn ni, fel arolygiaeth annibynnol, ychwanegu’r mwyaf o werth. Mae ein ‘sgôr risg o niwed i eraill’ yn mesur pa mor dda y gwnaed y gwaith hwn.
  4. Gellir cysylltu â Helen Davies ar 07919490420 neu helen.davies@hmiprobation.gsi.gov.uk (E-mail address). (ymholidau drwy’r Gymraeg)
  5. Gellir cysylltu â Sally Lester ar 07917 084763 neu sally.lester@hmiprobation.gsi.gov.uk (E-mail address). (ymholidau iaith Saesneg)