PEEL: Achos pryder Heddlu Dyfed-Powys: unplygrwydd data trosedd

Published on: 25 April 2022

Cyflwyniad

Os bydd ein harchwiliad yn adnabod diffyg difrifol neu allweddol mewn arfer, polisi neu berfformiad yr heddlu, caiff ei adrodd fel achos o bryder. Pan ddaw un neu fwy argymhelliad gydag achos o bryder, bob tro. Pan fyddwn yn adnabod achosion o bryder yn ystod ein harchwiliadau, byddwn fel arfer yn rhoi manylion yn adroddiad dilynol yr heddlu.

Weithiau, pan fyddwn yn darganfod methiannau gwasanaeth sylweddol neu berygl i ddiogelwch cyhoeddus, adroddwn ein pryderon a’n hargymhellion yn gynt. Gelwir hyn yn Achos o Bryder Cyflymedig.

Methiant i wneud gwelliannau

Yn 2018 wnaethon ni archwilio Cyfanrwydd data trosedd Heddlu Dyfed-Powys (sef ansawdd data troseddol heddlu) ddiwethaf. Fe wnaethon ni adrodd bod yr heddlu yn methu â chofnodi pob trosedd a gafodd ei adrodd, gan gynnwys trosedd dreisgar – yn enwedig cam-drin domestig. Mewn ymateb i hyn, fe wnaethon ni gyflwyno achos o bryder.

Fe wnaethon ni archwilio cyfanrwydd data troseddol eto yn 2021. Fe wnaethon ni ganfod bod yr heddlu wedi methu â gwneud y gwelliannau disgwyliedig i’w safonau cofnodi trosedd ers ein harchwiliad yn 2018.

Yn seiliedig ar ein canfyddiadau, amcangyfrifwn fod Heddlu Dyfed-Powys yn cofnodi 87.6 y cant o bob trosedd a gafodd eu hadrodd. Amcangyfrifwn fod hyn yn golygu nad yw’r heddlu yn cofnodi dros 4,400 o droseddau bob blwyddyn. Mae ei berfformiad hyd yn oed yn waeth ar gyfer troseddau yn erbyn person. Fe wnaethon ni ganfod mai 85.4 y cant o droseddau yn unig oedd yn cael eu cofnodi. Ar y cyfan, mae’r lefelau hyn heb newid ers ein canfyddiadau yn 2018.

Mae rhai o’r troseddau hyn yn achosion o gam-drin domestig neu’n gysylltiedig â dioddefwyr bregus. Mae methu â chofnodi trosedd yn aml yn golygu nad yw dioddefwr yn cael ei ddiogelu a bod dim ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Problemau gyda chofnodi trosedd

Daethom o hyd i leiafswm o dystiolaeth o gofnodi trosedd yn cael ei oruchwylio’n effeithiol. Mae’n bwysig i adnabod pan na fydd trosedd wedi ei gofnodi’n gywir. Mae’n caniatáu i’r heddlu adolygu ei ymateb drwy sicrhau fod y dioddefwr wedi ei ddiogelu a bod ymchwiliad priodol wedi cael ei gwblhau.

Methodd yr heddlu hefyd i gofnodi troseddau oedd yn gysylltiedig ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol tuag at bobl. Roedd y rhain yn cynnwys troseddau aflonyddu. Mewn achosion o’r fath, mae dioddefwyr yn byw mewn ofn ac yn gallu profi gorbryder sylweddol. Rhaid i’r heddlu sicrhau fod y troseddau hyn yn cael eu cofnodi, fel bod y dioddefwyr bregus yn cael eu diogelu.

Achos pryder

Yn rhy aml, mae Heddlu Dyfed-Powys yn methu â chofnodi adroddiadau o drosedd treisgar, yn enwedig cam-drin domestig ac ymddygiad gwrthgymdeithasol tuag at bobl.

Argymhellion

Dylai’r heddlu:

  • Gymryd camau ar unwaith i adnabod a chyfeirio at y bylchau yn ei systemau a phrosesau ar gyfer adnabod a chofnodi pob adroddiad o drosedd (gan roi sylw arbennig i droseddau treisgar sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig; a
  • gwneud trefniadau ar unwaith i sicrhau fod goruchwyliaeth ddigonol yn bodoli ar gyfer penderfyniadau a wneir gan swyddogion a staff sydd yn ymwneud â chofnodi trosedd.

O fewn tri mis dylai’r heddlu:

  • gynnig hyfforddiant penodol ar gyfer pob goruchwyliwr, swyddog a staff sydd yn gweithio mewn swyddi cofnodi trosedd. Dylai’r hyfforddiant hyn gynnwys gofynion cofnodi trosedd ar gyfer troseddau treisgar, gan gynnwys cam-drin domestig ac ymddygiad gwrthgymdeithasol (personol).

Mae’r rhybudd hwn o achos o bryder yn ansoddi adroddiad o dan Adran 54, Deddf Plismona 1996. Gan ei fod hefyd yn cynnwys argymhellion, mae gofyn i’r corff plismona lleol i ymateb o dan Adran 55, Deddf yr Heddlu 1996.

Dychwelyd i’r cyhoeddiad

PEEL: Dyfed-Powys Police cause of concern – crime data integrity