#003/2012 Gwelliannau sydd eu hangen i systemau a phrosesau adroddiadau troseddau a digwyddiadau’r heddlu

Mae adolygiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth EM (HMIC) ar systemau a phrosesau cofnodi trosedd wedi canfod amrywiaeth sylweddol o ran cywirdeb o hyd, er bod y mwyafrif o luoedd yn gwneud yn dda, ac y gwnaed gwelliannau.

Yn yr adolygiad cyntaf o’i fath, ‘Safle’r trosedd: Adolygiad o adroddiadau troseddau a digwyddiadau’r heddlu’, edrychwyd ar ansawdd data troseddau a digwyddiadau, a’r trefniadau sy’n bodoli er mwyn sicrhau y cynhelir ac y gwellir safonau ar draws y 43 o luoedd heddlu yn Lloegr a Chymru yn ogystal ag yn yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP). Dyma gyfnod cyntaf rhaglen newydd o waith gan HMIC a gynllunir i sicrhau’r cyhoedd eu bod yn derbyn gwybodaeth gywir ar droseddu gan yr heddlu.

Edrychodd HMIC yn ddwfn ar ddwy broblem: digwyddiadau a hysbyswyd gan y cyhoedd a newidiwyd yn droseddau a’r defnydd o’r categori ‘dim trosedd’ gan yr heddlu.

Mae’n bwysig i luoedd yr heddlu fod â data o ansawdd uchel er mwyn sicrhau y gallant sefydlu ble, pryd a pha mor aml mae troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) yn digwydd er mwyn iddynt gynllunio’u gwaith i gyflawni’r canlyniadau gorau i ddioddefwyr a chymunedau. Hefyd mae’n golygu y gall y cyhoedd, y Llywodraeth ac HMIC gael darlun cywir ynghylch troseddu ac ASB mewn ardal neilltuol.

Meddai Arolygydd Cynorthwyol Cwnstabliaeth EM, Vic Towell:

“Mae’r adolygiad hwn yn rhoi rhyw fewnwelediad i’r cyhoedd, ac yn ei dro Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd, ynghylch yr hwn sy’n digwydd pan ydynt yn adrodd am droseddau a digwyddiadau i’r heddlu. Mae’r canfyddiadau’n arwyddol gan ddarparu sicrwydd bod y ffigyrau troseddu a gyhoeddir gan eu heddluoedd yn cael eu gwirio. Er bod y mwyafrif yn gwneud yn dda, mae’r bwlch rhwng y gorau a’r gwaethaf yn aros yn rhy lydan ac mae angen iddo wella.”

Edrychodd adolygiad HMIC ar ddata digwyddiadau a throseddau gan bob un o’r 43 o luoedd ar draws Lloegr a Chymru. Er bod y samplau’n gymharol o fach, mae’r canlyniadau’n arwyddol, yn golygu eu bod yn ddigon i ddatgelu darlun ac ysgogi gweithredu. Canfyddodd HMIC bod tri chwarter o luoedd wedi gwneud penderfyniadau cywir o leiaf 90% o’r amser yn nhermau gwneud penderfyniadau cywir wrth gofnodi troseddau o ddigwyddiadau:

  • gwnaeth 18 o luoedd benderfyniadau cywir mewn 95% ac yn uwch o ddigwyddiadau a wiriwyd;
  • 15 o luoedd mewn 90-94% o ddigwyddiadau ac
  • 11 o luoedd mewn 86-89% o ddigwyddiadau.

O bryd i’w gilydd mae’n dod yn amlwg, er enghraifft yn ystod ymchwilio i drosedd, na chyflawnwyd dim trosedd. Dan yr amgylchiadau hyn mae’r heddlu’n diwygio’r cofnod i ddangos na ddigwyddodd ‘dim trosedd’. Mae goruchwylio a chyfiawnhau’r fath benderfyniadau ‘dim trosedd’ wedi bod yn amodol ar welliant sylweddol cyffredinol ers yr archwiliwyd i’r maes hwn ddiwethaf yn 2009 (Mae trosedd yn cyfrif Ar gael gan www.hmic.gov.uk). 1 Er enghraifft, canfyddodd HMIC fod 84% o benderfyniadau ‘dim trosedd’ yn gywir yn 2011, o gymharu â 64% yn 2009, er bod rhywfaint o amrywioldeb yn aros. Ar draws yr holl gategorïau a archwiliwyd, cofnododd y lluoedd isaf 75% o benderfyniadau ‘dim trosedd’ cywir; yn y llu uchaf, cofnodwyd 100% o benderfyniadau’n briodol.

Roedd HMIC yn siomedig i ganfod nad yw rhai lluoedd yn mynd i’r afael â’r broblem o ddioddefwyr ailadrodd a hyglwyf o hyd mewn cysylltiad ag ASB Fodd bynnag, gan fod maint y sampl yn fach, mae HMIC yn bwriadu mynd i’r afael â’r broblem hon â mwy o ddyfnder fel elfen allweddol o’r ailymweliad mewn cysylltiad ag ASB, a’r ffordd mae’r gwasanaeth yn mynd i’r afael â hi, a bydd yn adrodd ar hwn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Er nad oes ffactor sengl sy’n cyfrannu at y ffaith bod lluoedd yn gwneud penderfyniadau da ynghylch cofnodi troseddau a digwyddiadau’n gyson, ystyrir bod nifer o agweddau’n fwyaf dylanwadol, a’r rhain yw:

  • arweinyddiaeth, â llywodraethu da;
  • goruchwyliaeth a;
  • phobl fedrus.

Canfyddodd HMIC dystiolaeth gyfyngedig fod lluoedd yn asesu’n uniongyrchol a oedd eu harchwiliadau mewnol eu hunain ynghylch ansawdd cofnodi troseddu’n darparu hyder bod eu ffigyrau’n rhoi cyfrif cywir o’u perfformiad.

Wrth symud ymlaen, mae HMIC yn bwriadu edrych ymhellach ar y lluoedd hynny sy’n anghysbell neu’n anghyson ynglŷn â’r materion hyn.

Nodiadau i olygyddion

  1. Gellir dod o hyd i gopi o’r adroddiad Safle’r trosedd – Adolygiad ar adroddiadau troseddau a digwyddiadau’r heddlu ar wefan HMIC www.hmic.gov.uk
  2. Gellir gweld adroddiadau unigol heddluoedd ar gyfer y 43 o luoedd yn Lloegr a Chymru arwww.hmic.gov.uk
  3. Ceir casgliadau’r adolygiad hwn o dystiolaeth a gasglwyd drwy archwilio dogfennau allweddol; nifer gymharol fach o gofnodion digwyddiadau ac adroddiadau troseddau; cyfweliadau gyda staff, ac ymweliadau â gorsafoedd yr heddlu ac ystafelloedd rheoli’r heddlu. Roedd y data a gasglwyd yn ansoddol ei natur ar y cyfan. Dylid ystyried unrhyw ganlyniadau mesurol fel rhai arwyddol yn unig.
  4. Mae gan y broses gofnodi dri cham allweddol:

    i. Cofnodi digwyddiad: Mae aelod o’r cyhoedd yn galw am gymorth yr heddlu, neu mae heddwas yn gweld neu’n darganfod trosedd. Mae’r heddlu’n creu cofnod digwyddiad

    ii. Cofnodi trosedd: Os yw’r heddlu’n penderfynu bod trosedd wedi’i gyflawni, maent yn creu cofnod trosedd (fel arfer yn syth bin).

    iii. Ymchwilio i drosedd: Mae ymchwiliadau’n cychwyn cyn gynted â phosibl, fel arfer ag ymchwiliad sylfaenol sy’n chwilio am glemiau posibl ac yn casglu tystiolaeth berthnasol. Yna mae ymchwiliad manylach yn cymryd lle er mwyn ystyried y dystiolaeth a gasglwyd yn yr ymchwiliad sylfaenol.

  5. Mae’r Swyddfa Gartref yn gosod safonau ar gyfer cofnodi troseddau a digwyddiadau ill dau. Ategir y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cofnodi Troseddau gan Reolau Cyfrif y Swyddfa Gartref. Mae’r rhain yn anelu at ddarparu safonau cyson ac ymagwedd sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr ynghylch cofnodi troseddau ym mhob llu.
  6. Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth EM (HMIC) yn arolygiaeth annibynnol, yn arolygu plismona er lles y cyhoedd, ac yn archwilio’n llym i effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd lluoedd ac awdurdodau’r heddlu er mwyn delio â throseddu a therfysgaeth, wella cyfiawnder troseddol a chodi hyder. Mae HMIC yn arolygu pob un o’r 43 o luoedd heddlu yn Lloegr a Chymru ac yn eu rheoleiddio ynghyd â chyrff plismona mawr eraill fel yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol, Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
  7. Am ragor o wybodaeth, gellir cysylltu â swyddfa wasg HMIC yn ystod oriau’r swyddfa o 8:30yb – 5:30yh Llun – Gwener ar 0203 513 0600.
  8. Llinell allan-o-oriau swyddfa wasg HMIC ar gyfer ymholiadau brys gan y cyfryngau yw 07836 217 729.