Cymraeg

Croeso i wefan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS). Rydym yn arolygiaeth annibynnol a ariennir gan y Swyddfa Gartref.

Ein gwaith

Mae HMICFRS yn cynnal arolygiadau o sefydliadau a swyddogaethau heddlu ac yn adrodd ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd plismona yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Rydym hefyd yn arolygu sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, megis Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a heddluoedd tramor.

Rydym hefyd yn arolygu gwasanaethau tân ac achub yn Lloegr. Nid ydym yn arolygu gwasanaethau tân ac achub Cymru. Mae gan Gymru ei Phrif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub ei hun

Mae adroddiadau am heddluoedd Cymru yn cael eu cyfieithu fel mater o drefn, a gallwch ofyn am unrhyw un o’n hadroddiadau yn Gymraeg.

I ofyn am adroddiad yn Gymraeg gallwch anfon e-bost atom:contacthmicfrs@hmicfrs.gov.uk

Deunydd arall wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg

Nid yw ein gwefan wedi’i chyfieithu’n llawn i’r Gymraeg ar hyn o bryd. Rydym wedi ychwanegu Google Translate er mwyn gwella defnyddioldeb. Wrth ddewis ‘Cymraeg’ ar frig chwith y dudalen we, bydd y rhan fwyaf o’r wefan yn cael ei chyfieithu i’r Gymraeg. Mae ein hymwadiad Google Translateyn esbonio cyfyngiadau’r datrysiad dros dro hwn.