Cymharydd Troseddau a Phlismona

Mae’r Cymharydd Troseddau a Phlismona yn eich galluogi i gymharu data ar droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd, ansawdd gwasanaeth a niferoedd gweithlu i bob heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) yn dilysu a chyhoeddi’r data hwn, sy’n cael ei gyflwyno gan heddluoedd. Defnyddiwch y pedwar siart rhyngweithiol isod i ddewis yr heddluoedd a data mae gennych ddiddordeb ynddynt ac yna creu’ch graffiau’ch hun.

Angen cymorth? Mae tudalen Sut i Ddefnyddio’r Cymharydd Troseddau a Phlismona yn rhoi mwy o wybodaeth ar sut i ddefnyddio’r siartiau ac ambell enghraifft o’r graffiau y gallech eu creu.

Gweler y dudalen Ynglŷn â’r data am ragor o wybodaeth ar yr holl ddata a ddefnyddiom. Gallwch hefyd lawrlwytho y data amrwd a ddefnyddiwyd i greu’r siartiau. Gallwch roi’ch adborth i ni ar y siartiau trwy glicio ar y ddolen ‘Dweud eich dweud ar y siart hwn’.