Cymraeg

Video chat and form checking

Mae Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi yn Arolygiaeth annibynnol, a gyllidir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac sy’n adrodd yn uniongyrchol i’r Ysgrifennydd Gwladol ar effeithiolrwydd y gwaith gydag oedolion, plant a phobl ifanc sydd wedi troseddu gyda’r amcan o leihau aildroseddu a diogelu’r cyhoedd.

Ceisiwn fod yn ffynhonnell annibynnol ac awdurdodol sy’n rhoi sylw teg ar waith troseddau oedolion ac ieuenctid, a beth y gellir ei ddisgwyl o’r gwaith.
Rydym yn canolbwyntio ar waith ble mae arolygu annibynnol yn ychwanegu gwerth.

Ein prif fethodoleg graidd yw archwilio sampl cynrychiadol o achosion troseddwyr, ac asesu a oedd pob agwedd o’r gwaith wedi’i wneud yn ddigon da.
Ymysg pethau eraill, rhown bwyslais ar asesu effeithiolrwydd y gwaith o gadw’r Perygl o Niwed i’r cyhoedd ac i blant i’r isafswm.