#025/2011 – Rhaid i’r modd y mae plant a phobl ifanc yn cael eu trin yn y ddalfa roi mwy o bwyslais ar sicrhau eu lles

Mae darparu Oedolion Priodol i blant yn y ddalfa yn canolbwyntio ar gydymffurfio â deddfwriaeth Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984. Mae angen gwaith pellach nawr ar ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc, oedd casgliad arolwg ar y cyd. Canfu’r adroddiad, ‘Pwy sy’n cadw llygad am y plant?’ hefyd bod gormod o blant a phobl ifanc yn parhau i gael eu dal mewn gorsafoedd heddlu tra byddant yn aros am gael ymddangos yn y llys ar ôl cael eu cyhuddo.

Mae’r canfyddiadau yn dilyn arolwg gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC), Arolygiaeth Prawf EM, Arolygiaeth Carchardai EM, y Comisiwn Ansawdd Gofal, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a’r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGVV).

Edrychodd yr arolwg ar y modd y mae awdurdodau lleol yn darparu Oedolion Priodol i blant yn y ddalfa a llety diogel dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 mewn awdurdodau lleol.

Yn unol â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol, roedd yr adroddiad yn ystyried plant a phobl ifanc rhwng 10 ag 16 oed sydd â hawl i gael Oedolyn Priodol yn bresennol. Os bydd plentyn rhwng 10 ag 16 oed yn cael ei gyhuddo o drosedd ac y gwrthodir mechnïaeth, mae’n ofynnol i’r heddlu (heblaw mewn amgylchiadau penodol) i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol i gael llety, ac mae’n rhaidd iddynt hwythau ei dderbyn. Mae’r Ddeddf yn creu anghysondeb i rai 17 mlwydd oed, sy’n cael eu trin fel oedolion mewn gorsaf heddlu.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad hefyd:

  • Roedd y gweithdrefnau recriwtio ar gyfer Oedolion Priodol yn gyffredinol yn gadarn, ac roedd y rhaglenni hyfforddi ar draws ardaloedd yn debyg. Roedd yr unigolion cafodd eu recriwtio i weithredu fel Oedolion Priodol yn gyffredinol yn frwdfrydig ac yn awyddus i gefnogi plant a phobl ifanc.
  • Ac eithrio mewn un ardal, gwelwyd bod y llif gwybodaeth rhwng Timau Troseddau Ieuenctid ag Oedolion Priodol yn aneffeithiol. Yn aml iawn ni wyddai’r Oedolion Priodol fawr ddim am y plentyn neu unigolyn ifanc yr oeddynt i fod i’w gefnogi, ac roedd tystiolaeth bod y diffyg gwybodaeth hyn yn llesteirio eu hymdrechion i gefnogi pobl ifanc.
  • Roedd cofnodion dalfa’r heddlu, ffynhonnell wybodaeth bwysig i’r Oedolyn Priodol, yn annigonol, heb eu llenwi yn gywir mewn sawl achos a heb ddigon o fanylder.
  • Nid oedd amgylchedd ffisegol yr ardaloedd dal (er enghraifft, y diffyg preifatrwydd, sŵn a rhwystrau ffisegol) yn annog plant neu bobl ifanc i ddatgelu eu gwendidau neu eu hanghenion arbennig.
  • Roedd diffyg unrhyw asesu credadwy ar ansawdd y gwasanaeth a ddarparwyd gan Oedolion Priodol. Gwelwyd eu bod yn oddefol mewn cyfweliadau ac yn annhebygol o herio’r heddlu.
  • Ac eithrio mewn un ardal, roedd diffyg gwybodaeth yn gyffredinol a phryder ar bob lefel o’r heddlu a’r awdurdod lleol o ran faint o blant a phobl ifanc sy’n parhau i gael eu dal yng nghelloedd yr heddlu ar ôl cael eu cyhuddo, ac am ba hyd.
  • Roedd diffyg dealltwriaeth ymhlith staff y ddalfa o’r elfennau o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn cyfiawnhau dal plant a phobl ifanc mewn gorsaf heddlu ar ôl eu cyhuddo. Mewn 33 o’n hadolygiadau achos pan wrthodwyd mechnïaeth, ni cheisiwyd cael llety gan awdurdod lleol. Pan geisiwyd cael llety gan yr awdurdod lleol, ni wnaeth y staff herio ceisiadau’r heddlu ar gyfer llety diogel; ac felly nid oedd plant a phobl ifanc yn cael eu trosglwyddo i lety Awdurdod Lleol ar ôl eu cyhuddo.
  • O’n sampl ni o 49 o blant y gwrthodwyd mechnïaeth iddynt, dim ond tri a aeth i lety awdurdod lleol. Rhoddwyd mechnïaeth i 64 y cant o’r gweddill a barhaodd yng nghelloedd yr heddlu yn eu gwrandawiad cyntaf yn y llys.

O ganlyniad, mae’r arolygwyr yn argymell:

  • Bydd y Tîm Troseddau Ieuenctid neu’r awdurdod lleol yn sicrhau bod y trefniadau ar gyfer gofyn am Oedolyn Priodol yn cael eu cynllunio fel bod plant a phobl ifanc yn cael eu cadw yng nghelloedd yr heddlu am gyn lleied o amser ag sy’n bosibl.
  • Rhaid i lif gwybodaeth rhwng Timau Troseddau Ieuenctid ag Oedolion Priodol fod yn effeithiol, a chanolbwyntio ar anghenion y plentyn neu unigolyn ifanc.
  • Bydd yr heddlu yn gwneud gwell defnydd o gyfleusterau cofnodi preifat neu ar wahân yn ardal y ddalfa i annog plant a phobl ifanc i ddatgelu eu hanghenion unigol.
  • Rhaid i’r heddlu ymdrin yn effeithiol ag anghenion plant o ran cael eu diogelu, a sicrhau bod yr holl wybodaeth am gadwad plant a phobl ifanc yn cael ei chofnodi yn gywir. Dylid cadw’r amser y mae plant a phobl ifanc yn cael eu dal mewn gorsafoedd heddlu ar ôl cael eu cyhuddo cyn lleied â phosibl. Rhaid i’r heddlu ddarparu dogfennau sy’n addas i’w hoedran, addasu technegau cyfweld a chyfleu unrhyw broblemau o ran diogelu fel y maent yn cael eu dynodi.
  • Bydd y Tîm Troseddau Ieuenctid/darparwr Oedolion Priodol yn darparu gwasanaeth o safon i blant a phobl ifanc yn y ddalfa.
  • Dylai Byrddau Diogelu Plant Lleol fonitro’r argymhellion yn yr adroddiad hwn i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu trin fel unigolion a bod eu hanghenion yn cael sylw i’w galluogi i ddeall a chymryd rhan yn y broses.

Mae’r adroddiad hefyd yn argymell y dylai’r Swyddfa Gartref gynnig cyfarwyddyd addas ar broses dalfa’r heddlu i rieni a gwarcheidwaid er mwyn iddynt gymryd rhan lawn, a mabwysiadau dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol y diffiniad o blentyn fel sy’n cael ei amlinellu yn Neddf Plant 2004.

Dywedodd Arolygydd Heddlu EM, Dru Sharpling, ar ran y chwe arolygiaeth:

“Yr hyn wnaethom ei ganfod yn ein harolygiad ar y cyd oedd nad yw’r broses arestio a chadw yn y ddalfa yn ystyried anghenion y plant a’r bobl ifanc. Dylai asiantaethau gweithio gydag eraill i gadw’r amser y mae plant a phobl ifanc yn cael eu dal yn y ddalfa gan yr heddlu cyn lleied â phosibl.

“Dylai’r rhai sy’n gwneud gwaith Oedolyn Priodol gael digon o wybodaeth am gefndir y plentyn i ddeall ei anghenion. Rhaid i’r heddlu, Timau Troseddau Ieuenctid, awdurdodau lleol a Byrddau Diogelu Plant Lleol gynnig rhagor o arweiniad, cyfarwyddyd a goruchwyliaeth i alluogi eu staff i ddeall yn iawn eu dyletswydd i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc.”

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

  1. Mae’r adroddiad ar gael yn www.hmic.gov.uk
  2. Crëwyd y rôl Oedolyn Priodol dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE) 1984, ac mae’n ofynnol i un fod yn bresennol ar nifer o adegau yn ystod y broses yn y ddalfa os bydd plentyn yn cael ei gadw. Mae’r enghreifftiau o hyn yn cynnwys; pan fydd plentyn neu unigolyn ifanc yn cael gwybod am ei hawliau, pan fydd yn cael ei gyfweld neu yn cael ei gyhuddo. Fel arfer bydd yr Oedolyn Priodol yn rhiant neu warcheidwad, ond pan fyddant yn gwrthod bod yn bresennol neu’n methu, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu’r Oedolyn Priodol. Yn unol â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol, roedd yr adroddiad yn ystyried plant a phobl ifanc rhwng 10 ag 16 oed sydd â hawl i gael Oedolyn Priodol yn bresennol.
  3. Mae Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol yn ei gwneud yn ofynnol i blant a phobl ifanc rhwng 10 ag 16 oed sy’n cael eu cyhuddo o drosedd ac y gwrthodir mechnïaeth iddynt gael eu trosglwyddo i ofal yr awdurdod lleol hyd eu hymddangosiad yn y llys (ac eithrio dan amgylchiadau penodol). Rhaid i’r awdurdod heddlu, dan Ddeddf Plant 1989 dderbyn y plant a’r bobl ifanc yma i’w gofal. Mae’r Ddeddf yn creu anghysondeb i rai 17 mlwydd oed, sy’n cael eu trin fel oedolion mewn gorsaf heddlu.
  4. Comisiynwyd yr arolygiad thematig ar y cyd hwn gan Grŵp Prif Arolygwyr Cyfiawnder Troseddol (CJCIG) ac mae’n rhan o’r rhaglen ar y cyd Arolygiaethau Cyfiawnder Troseddol, fel y cyhoeddwyd yn ein cynllun busnes ar y cyd ar gyfer 2010-12. Mae’r adroddiad ar gael yn https://s3-eu-west-2.amazonaws.com/assets-hmicfrs.justiceinspectorates.gov.uk/uploads/criminal-justice-joint-inspection-business-plan-2010-12.pdf
  5. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r wasg HMIC ar 020 3513 0600 rhwng 8.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Y llinell i’r wasg allan o oriau swyddfa ar gyfer ymholiadau brys yw 07836 217729.
  6. Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) yn arolygiaeth annibynnol, yn arolygu plismona er budd y cyhoedd, ac mae’n archwilio effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd lluoedd heddlu ac awdurdodau yn fanwl wrth iddynt ymdrin â throseddau a therfysgaeth, gwella cyfiawnder troseddol a chynyddu hyder. Mae HMIC yn arolygu a rheoleiddio y 43 o luoedd heddlu sydd yng Nghymru a Lloegr ynghyd â chyrff plismona pwysig eraill. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan www.hmic.gov.uk
  7. Mae Arolygiaeth Brawf EM yn arolygiaeth annibynnol, a ariennir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae’n rhoi adroddiad yn uniongyrchol i’r Ysgrifennydd Gwladol ar effeithiolrwydd gwaith gyda throseddwyr unigol, plant a phobl ifanc gyda’r bwriad o leihau aildroseddu a diogelu’r cyhoedd.
  8. Mae Arolygiaeth Carchardai EM yn arolygiaeth annibynnol, sy’n arolygu mannau cadw troseddwyr i roi adroddiad ar yr amodau yno a’r driniaeth, ac i hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i’ rhai sy’n cael eu cadw a’r cyhoedd.
  9. Y Comisiwn Ansawdd Gofal yw’r rheoleiddiwr annibynnol i’r holl wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr. Ein gwaith ni yw gwneud yn siŵr bod y gofal a ddarperir gan ysbytai, deintyddion, ambiwlansiau, cartrefi gofal a gwasanaethau yng nghartrefi pobl ac mewn mannau eraill yn cyrraedd safonau’r llywodraeth o ran ansawdd a diogelwch.
  10. Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn annog gwelliant mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol trwy reoleiddio, adolygu a chynnig cyngor proffesiynol i Weinidogion a llunwyr polisïau. Rydym yn cyflawni ein swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, ac er ein bod yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol a Chymunedau yn Llywodraeth Cymru, mae nifer o gamau diogelu yn eu lle i sicrhau ein bod yn gweithredu yn annibynnol. Mae ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd wedi eu hanelu at sicrhau bod profiadau defnyddwyr y gwasanaeth yn ganolog i’n gwaith. Ein dyletswydd yw sicrhau dinasyddion Cymru o ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal cymdeithasol trwy ein harolygiadau. Mae’r cyfrifoldeb am wella gwasanaethau yn aros gyda’r rhai sy’n eu comisiynu a’u darparu o fewn gofynion deddfwriaeth a pholisi’r llywodraeth. Mae arolygiadau AGGCC yn cynnig atebolrwydd i’r cyhoedd a gwersi i’r rhanddeiliaid trwy enghreifftiau a gwelliannau parhaus i wasanaethau. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan www.cssiw.org.uk
  11. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw’r arolygiaeth annibynnol a’r rheoleiddiwr ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru. Mae prif ffocws yr Arolygiaeth ar:
    • Wneud cyfraniad sylweddol i wella diogelwch a safon gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.
    • Gwella profiad dinasyddion o ofal iechyd yng Nghymru boed yn glaf, yn ddefnyddiwr gwasanaeth, yn ofalwr, yn berthynas neu’n weithiwr.
    • Cryfhau llais cleifion a’r cyhoedd yn y ffordd y mae gwasanaethau iechyd yn cael eu hadolygu. Sicrhau bod gwybodaeth amserol, ddefnyddiol, hygyrch a pherthnasol am ddiogelwch a safon gofal iechyd yng Nghymru ar gael i bawb. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan www.hiw.org.uk