#019/2011 Nid yw Byrddau Lleoo Diogelu Plant yn Dangos eu Heffaith ar Fywydau Plant

Nid yw Byrddau Lleol Diogelu Plant (BLlDP) yn dangos yn effeithiol sut y maent yn gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Casgliad y cyd-adroddiad arolygu a gyhoeddwyd heddiw gan bum arolygiaeth (Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi) yw fod diffyg ffocws yn y BLlDP ar wella canlyniadau i blant ac nad yw’r BLlDP yn cyflawni eu cyfrifoldebau statudol. O ganlyniad, ni all y BLlDP ddangos effaith eu gwaith ar wella bywydau plant.

Gan siarad ar ran y pum arolygiaeth, meddai Imelda Richardson, Prif Arolygydd AGGCC: “Nododd yr arolygiad ffactorau allweddol a oedd yn effeithio ar effeithiolrwydd BLlDP: dylai’r arweinyddiaeth fod yn fwy effeithiol; mae angen iddynt ddatblygu cyfeiriad strategol a phrin yw’r dystiolaeth o’r ffordd y maent yn ymgysylltu â phlant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a chymunedau ehangach. Mae’r adroddiad yn amlinellu nifer o feysydd lle y gellir datblygu gweithio amlasiantaethol effeithiol a fydd yn gwella’r diogelu i blant a phobl ifanc yng Nghymru.”

Sefydlwyd BLlDP yn 2006 o dan Ddeddf Plant 2004 a hwy sy’n arwain y gwaith o ddiogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc. Mae aelodaeth y byrddau yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol ac addysg awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG, gwasanaethau heddlu, gwasanaethau prawf a thimau troseddau ieuenctid.

Bydd copi o’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan AGGCC

http://wales.gov.uk/cssiwsubsite/newcssiw/publications/ourfindings/allwales/2011/lscb/?skip=1&lang=cy

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

  1. Cynhaliwyd yr arolygiad rhwng Tachwedd 2010 a Mawrth 2011.
  2. O’r 19 BLlDP sy’n gweithredu yng Nghymru ymwelodd yr arolygiaethau â 7, un ar gyfer pob rhanbarth iechyd.
  3. Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn cynnal arolygiadau o sefydliadau a swyddogaethau’r heddlu ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd plismona yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
  4. Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn annog y gwaith o wella gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol drwy reoleiddio, arolygu, adolygu a rhoi cyngor proffesiynol i Weinidogion a llunwyr polisïau. Cyflawnwn ein swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, ac er ein bod yn rhan o Gyfarwyddiaeth Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae nifer o ragofalon ar waith i sicrhau ein hannibyniaeth weithredol. Nod ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd yw sicrhau bod profiadau defnyddwyr gwasanaethau yn greiddiol i’n gwaith. Ein dyletswydd yw hysbysu dinasyddion Cymru o ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal cymdeithasol drwy ein harolygiadau. Y sawl sy’n comisiynu ac yn darparu gwasanaethau sy’n gyfrifol am eu gwella, a hynny yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth a pholisïau’r llywodraeth. Mae arolygiadau AGGCC yn rhoi atebolrwydd i’r cyhoedd a dysgu i randdeiliaid drwy enghreifftiau a gwelliannau parhaus i wasanaethau.
    Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan www.cymru.gov.uk/cssiw
  5. Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw sicrhau rhagoriaeth i bawb ym maes dysgu yng Nghymru. Gwnawn hyn drwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chynghori annibynnol o ansawdd uchel. Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod, drwy arbenigedd ein staff, yn llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru. Rydym yn annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru ond cawn ein hariannu ganddi (o dan Adran 104 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
    Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan www.estyn.gov.uk
  6. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw’r corff annibynnol sy’n gyfrifol am arolygu a rheoleiddio gofal iechyd yng Nghymru. Prif ffocws AGIC yw:
    • Gwneud cyfraniad sylweddol at y gwaith o wella diogelwch ac ansawdd gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.
    • Gwella profiad dinasyddion o ofal iechyd yng Nghymru boed hynny fel claf, defnyddiwr gwasanaeth, gofalwr, perthynas neu gyflogai.
    • Atgyfnerthu llais cleifion a’r cyhoedd o ran y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu hadolygu.
    • Sicrhau bod gwybodaeth amserol, ddefnyddiol, hygyrch a pherthnasol am ddiogelwch ac ansawdd gofal iechyd yng Nghymru ar gael i bawb.
      Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan www.hiw.org.uk