Sut i ddefnyddio’r Cymharydd Troseddau a Phlismona

Mae Cymharydd Troseddau a Phlismona’r HMIC yn eich galluogi i gymharu’ch heddlu gydag unrhyw heddlu arall, neu gyda phob heddlu yng Nghymru a Lloegr. Mae yna bedwar maes i’w cymharu: troseddau a gofnodwyd, ansawdd gwasanaeth, cyllid yr heddlu a niferoedd gweithlu. Mae gan bob ardal ei siart rhyngweithiol ei hun ble gallwch ddewis pa wahanol gategorïau – megis mathau o droseddau neu wybodaeth staffio – i’w cymharu.

I ddechrau, dylech sgrolio i lawr i’r siart y mae gennych ddiddordeb ynddi a defnyddio’r gwymplen ar ochr chwith y sgrin i ddewis categori.

Esiampl 1.

Recorded crime drop-down menu

Nesaf, defnyddiwch y cwymplenni ar ochr dde’r sgrin i ddewis pa heddluoedd yr hoffech gymharu.

Esiampl 2.

Choose your force drop-down menu

Er enghraifft, gallech greu’r siart isod trwy fynd i’r siart troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd a dewis i weld yr ystadegau byrgleriaeth yn Avon a Gwlad yr Haf a Chaint.

Esiampl 3.

Recorded crime example chart

Gallech greu’r siart nesaf trwy sgrolio i lawr i Ansawdd gwasanaeth, dewis gweld yr ystadegau ar gyfer siopladrad a ddatryswyd a phenderfynu cymharu Cumbria a Gwent.

Esiampl 4.

Quality of service example chart

Os oes gennych ddiddordeb yng nghyllid yr heddlu, gallwch ddewis gweld costau goramser swyddogion heddlu a chymharu Swydd Gaerlŷr gyda heddluoedd eraill yng Nghymru a Lloegr.

Esiampl 5.

Force finances example chart

Mae’r siart yn rhoi gwybodaeth ar niferoedd Gweithlu, megis faint o swyddogion cymorth plismona cymdogaeth a gyflogir gan eich heddlu. Ewch i’r siart niferoedd Gweithlu a dewis eich categori a heddluoedd.

Esiampl 6.

Workforce numbers example chart

Gallwch hefyd ddewis newid y pedwar siart ar unwaith. I gymharu dau heddlu ar y pedwar siart, defnyddiwch opsiynau’r gwymplen ar frig y dudalen a chlicio ‘Defnyddio pob siart’. Yna bydd hyn yn diweddaru’r pedwar siart ar y dudalen.

Esiampl 7.

Draw all charts example

Mae yna ddolenni ar bob siart sy’n darparu mwy o wybodaeth ar eich heddlu: cliciwch ar y rhain i weld beth sydd gan yr heddlu ei hun, neu ei awdurdod heddlu, neu HMIC, i ddweud. Gallwch hefyd roi adborth i ni ar y siartiau trwy glicio ar y ddolen ‘Dweud eich dweud ar y siart hwn’.

Yn ôl at Gymharydd Troseddau a Phlismona